Diffyg ystyried difa moch daear yn 'siom'

Gwartheg

Mae un o gyn lywyddion y gymdeithas filfeddygol Brydeinig yng Nghymru wedi dweud wrth raglen Manylu ar BBC Radio Cymru ei fod yn siomedig nad ydi Llywodraeth Cymru yn ystyried difa moch daear fel rhan o'r polisi i geisio cael gwared â'r diciâu mewn gwartheg.

Roedd Peter Harlech Jones yn ymateb i gynnwys dogfen ymgynghorol newydd ar y clwy sydd wedi ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Dyw'r British Veterinary Association (BVA) ddim eto wedi ymateb yn swyddogol i'r ddogfen, ond dywedodd Mr Jones eu bod nhw'n croesawu parodrwydd y llywodraeth i ymgynghori.

Dywedodd: "Be' mae'r BVA yn ei ddeud ydi mai methu cadw'r clefyd i lawr mewn moch daear ydi un o'r rhesymau mwyaf pam fod y salwch mewn gwartheg mor ddrwg.

"Da' ni wedi cefnogi lladd moch daear ar hyd y blynyddoedd - mae isho eu dal nhw a'u saethu nhw ac mae hynny'n rhywbeth da ni'n dal i'w gefnogi hefo mesurau eraill. Mae isho edrych ar y clwy mewn gwartheg hefyd."

Image caption Mae Peter Harlech Jones yn dweud bod angen deall mwy am y clwy TB mewn gwartheg

Ac wrth ymateb i gwestiwn - a oedd o'n bersonol yn siomedig nad ydi Llywodraeth Cymru yn ystyried yr un math o gynllun difa a'r hyn sy'n cael ei ganiatáu yn Lloegr - dywedodd:

"Yndw, a mi oedd na amser pan 'oedd y gweinidog amaeth yn y llywodraeth yng Nghymru yn cefnogi hyn, ond wrth gwrs mae llywodraethau yn newid.

"Ond dwi yn credu yn hollol bod yn rhaid i hwn fod yn rhan o'r mesurau ac yndw, dwi yn siomedig."

'Diystyru difa'

Cael gwared a'r diciâu o Gymru yn llwyr ydi nod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ond dydi difa moch daear ar raddfa eang ddim yn rhan o'i gweledigaeth.

"Dwi wedi diystyru cynllun difa tebyg i Loegr," meddai.

"Dwi ddim yn meddwl mai dyna'r peth iawn i wneud fel rhan o'r cynllun i gael gwared â'r diciâu yma.

"Dwi am weld Cymru yn rhydd o TB a dwi o'r farn fod yr awgrymiadau sy'n cael eu crybwyll yn yr ymgynghoriad yn ddechrau da i gyflawni hynny."

Image caption Yn ôl Andrew Griffiths (canol) mae nifer o ffermydd yn yr ardal wedi eu heffeithio gan y clefyd

Un teulu sy'n gorfod byw gyda'r clwy o ddydd i ddydd ydi teulu fferm odro Penlan, Maenclochog yn Sir Benfro.

Mae tair cenhedlaeth yn ffermio yma. Cafodd 47 o'u gwartheg eu difa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

"Wel mae'n rhaid iddyn nhw wneud rhywbeth. Mae lot o ffermydd ffordd hyn wedi bod i lawr am flynyddoedd", meddai Andrew Griffiths.

"Os nad y' nhw yn dechrau neud rwbath nawr a deifio mewn i weld be sy'n achosi'r TB yma, mae'n mynd i gadw mlaen a mlaen.

"Mae'n rhaid iddyn nhw neud y ddwy ochr, ddim jyst un ochr."

Manylu - dydd Iau 10 Tachwedd am 12:30, a dydd Sul 13 Tachwedd am 16:00 ar BBC Radio Cymru.

Bydd y rhaglen hefyd ar gael ar wefan Radio Cymru ac ap iPlayer Radio o 06:00 fore dydd Iau.