Alfreton 1-1 Casnewydd

Cwpan FA Image copyright Getty Images

Doedd gôl gan Josh Sheehan ddim yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gasnewydd yn rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr.

Mewn hanner cyntaf di-sgôr yn erbyn Alfreton fe fethodd Sean Rigg, Sheehan a Rhys Healey gyfleoedd i'r Alltudion, tra bod Joe Day hefyd wedi gorfod arbed ergyd gan Adam Priestley ar ben arall y cae.

Ar ôl 65 munud o chwarae, fe lwyddodd Rigg i guro dau ddyn cyn ei phasio hi i Sheehan i sgorio'r gôl agoriadol.

Ond deng munud yn ddiweddarach llwyddodd Terry Kennedy i benio'r tîm cartref yn gyfartal.

Mae'r canlyniad yn golygu y bydd yn rhaid i'r ddau dîm ailchwarae ar Rodney Parade am le yn rownd nesaf y gystadleuaeth, gyda disgwyl i'r gêm gael ei chynnal nos Fawrth 15 Tachwedd.