£199,000 i warchod mynyddoedd yn Eryri

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Ron Galliers/Geograph

Mae prosiect sy'n ceisio diogelu rhai o fynyddoedd Eryri wedi derbyn swm ariannol sylweddol.

Fe fydd Partneriaeth Tirwedd Carneddau yn derbyn £198,700 oddi wrth Cronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn helpu gwarchod yr amgylchedd.

Dywed y bartneriaeth fod archaeoleg, ecoleg, safleoedd o'r Oes Efydd a thiroedd mawn dan fygythiad.

Drwy sicrhau'r arian mae'r prosiect saith mlynedd nawr hefyd yn gallu gwneud cais pellach am swm llawn o £1.9m gan y Loteri.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy'n arwain y prosiect - gan warchod 81 o filltiroedd sgwâr, gan gynnwys Carnedd Llywelyn.

Ffynhonnell y llun, Natural Resources Wales
Disgrifiad o’r llun,
Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu ecoleg y mynyddoedd

Dywedodd Jonathan Cawley, cyfarwyddwr cynllunio Awdurdod y Parc Cenedlaethol: "Rydym wedi ein cyffroi ynglŷn â'r prosiect sydd yn un o bwysigrwydd mawr, ac a fydd o fudd mawr i gymunedau lleol ac i dreftadaeth y mynyddoedd."

Ychwanegodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru:

"Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn gweithio'n galed i sicrhau fod pob elfen o'n treftadaeth bwysig yn cael ei warchod - ac nid yw hynny'n golygu hen adeiladau crand, cestyll ac amgueddfeydd yn unig. Mae treftadaeth naturiol o'n cwmpas ymhob man, yn enwedig yng Nghymru, ac mae'n hollbwysig i'r economi, i greu swyddi ac mae'n llesol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol