Ian Rush
- Cyhoeddwyd

Mi ffurfiodd y pêl-droediwr Ian Rush bartneriaeth lwyddiannus yn llinell flaen Lerpwl gyda Kenny Dalglish yn yr 80au. Roedd yn gwisgo'r crys rhif 9 i Lerpwl a Chymru. Mi ddaeth o i sylw cynulleidfa ehangach mewn hysbyseb deledu enwog i laeth:
"Pam wyt ti'n yfed llaeth"
"Mae Ian Rush yn d'eud os na wna'i fydda i ddim yn ddigon da i chwarae i Accrington Stanley"
"Pw' di rheiny?"
"Yn union!"