Gwrthdrawiad marwol Caerdydd: Tri yn y llys

Sophie Taylor

Mae tri pherson wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â marwolaeth dynes fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd yng Nghaerdydd.

Mae Michael Wheeler, 22, Lewis Hall, 18, a Melissa Pesticcio, 23, yn wynebu cyhuddiadau'n gysylltiedig â marwolaeth Sophie Taylor, 22.

Clywodd Llys Ynadon Caerdydd ei bod wedi marw ar ôl i'w char BMW daro bloc o fflatiau yn ardal Waunadda ar 22 Awst.

Mae dyn 21 oed oedd yn teithio yn y car yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae Ms Pesticcio a Mr Wheele wedi'u cyhuddo o achosi marwolaeth ac anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus, tra bo Mr Hall wedi'i gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd y tri, oll o Gaerdydd, eu rhyddhau ar fechnïaeth i ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd fis nesaf.