Halfpenny'n dychwelyd i Gymru wrth i Williams fethu allan

Williams a Halfpenny Image copyright Getty Images

Mae Liam Williams wedi colli ei frwydr i fod yn ffit i wynebu Awstralia yng ngêm gyntaf Cymru yng Nghyfres yr Hydref ddydd Sadwrn.

Leigh Halfpenny fydd yn dechrau fel cefnwr yn ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf ers dros flwyddyn.

Dydi Sam Warburton na Taulupe Faletau ddim ar gael oherwydd anafiadau, tra bod Alun Wyn Jones hefyd yn methu'r gêm yn dilyn marwolaeth ei dad.

Prop y Gleision, Gethin Jenkins fydd capten y tîm wrth iddo ennill ei 127ain cap dros Gymru.

Dau gap cyntaf?

Mae Alex Cuthbert yn dychwelyd i'r asgell, gyda Luke Charteris a Bradley Davies yn yr ail reng.

Mae'n bosib y bydd dau chwaraewr yn ennill eu capiau rhyngwladol cyntaf, gyda maswr y Gweilch, Sam Davies a chlo'r Dreigiau, Cory Hill wedi'u henwi ar y fainc.

Ynghyd â Williams, mae dau Scarlet arall - Jake Ball a Scott Williams - hefyd yn methu allan oherwydd anafiadau.

Mae Cymru wedi colli 11 gêm yn olynol yn erbyn Awstralia ers eu buddugoliaeth o 21-18 yng Nghaerdydd yn 2008.

Image copyright Getty Images
Image caption Gethin Jenkins fydd capten y tîm wrth iddo ennill ei 127ain cap dros Gymru

Cymru v Awstralia

Cymru: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; Dan Biggar, Rhys Webb; Gethin Jenkins (capten), Ken Owens, Samson Lee, Luke Charteris, Bradley Davies, Dan Lydiate, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Scott Baldwin, Nicky Smith, Tomas Francis, Cory Hill, James King, Gareth Davies, Sam Davies, Hallam Amos.

Awstralia: Israel Folau; Dane Haylett-Petty, Tevita Kuridrania, Reece Hodge, Henry Speight; Bernard Foley, Nick Phipps; Scott Sio, Stephen Moore (capten), Sekope Kepu, Rory Arnold, Adam Coleman, David Pocock, Michael Hooper, Lopeti Timani.

Eilyddion: Tolu Latu, James Slipper, Allan Alaalatoa, Rob Simmons, Scott Fardy, Nick Frisby, Quade Cooper, Sefa Naivalu.