Brexit: 'Camgymeriad' herio'r Uchel Lys medd Carwyn Jones

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Carwyn Jones wedi dweud y byddai'n gamgymeriad i herio'r dyfarniad

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud y byddai'n gamgymeriad i herio dyfarniad yr Uchel Lys, sy'n dweud fod rhaid cynnal pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin cyn y gall Llywodraeth y DU ddechrau'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ychwanegodd Mr Jones ei bod yn amser "symud ymlaen yn awr i feithrin dealltwriaeth well o sefyllfa Llywodraeth y DU".

"Mae sefyllfa Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson gydol yr amser," meddai. "Rydym yn derbyn y penderfyniad a wnaed gan y bobl ac ni fyddwn yn gweithio yn erbyn canlyniad y refferendwm.

"Rydym yn gweithio'n ddiwyd i gael y telerau gorau posibl i Gymru ar gyfer ymadael â'r UE. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod pobl y pedair cenedl yn bwrw pleidlais er mwyn cryfhau sefyllfa negodi'r DU."

Uchel Lys

Ddydd Iau, dyfarnodd yr Uchel Lys y bydd yn rhaid cynnal pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin cyn y gall y DU ddechrau'n ffurfiol ar y broses o adael yr UE.

Mae'r penderfyniad yn golygu na all y Llywodraeth weithredu Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon heb ganiatâd aelodau seneddol.

Dadl y Prif Weinidog Theresa May yw nad oes angen pleidlais ymhlith aelodau seneddol oherwydd bod refferendwm wedi'i gynnal a bod gan weinidogion y pwerau angenrheidiol i ddechrau'r broses.

Ond dywed gwrthwynebwyr bod hynny'n anghyfansoddiadol.

Fe bleidleisiodd 51.9% o bobl y DU o blaid gadael yr UE ym Mehefin.

Yng Nghymru, roedd 52.5% o blaid gadael, tra bod mwyafrif o etholwyr Yr Alban a Gogledd Iwerddon am barhau yn yr UE.

Apêl

Dywed Ms May mai ei bwriad hi yw dechrau'r broses o weithredu Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.

Eisoes mae gwledydd eraill yr UE wedi dweud nad oes modd trafod amodau unrhyw berthynas newydd nes bod Erthygl 50 wedi ei chwblhau.

Yn ôl sylwebwyr, pe na bai'r llywodraeth yn llwyddo i wrthdroi penderfyniad yr Uchel Lys, fe allai'r dyfarniad olygu oedi yn y broses o adael yr UE.

Mae'r llywodraeth yn dweud y byddant yn apelio yn erbyn y dyfarniad.

Image copyright Getty Images
Image caption Gina Miller, wnaeth gyflwyno'r achos i'r Uchel Lys, yn siarad ar ôl y dyfarniad

Dadansoddiad Gohebydd Seneddol BBC Cymru, Elliw Gwawr

Canlyniad dirdynnol sy'n rhoi cur pen enfawr i Theresa May.

Nid hi fydd yn penderfynu pryd i ddechrau'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, ond y Senedd.

Roedd hi'n gobeithio gwneud hynny cyn diwedd Mawrth 2017, ond mae'r amserlen yna yn sicr yn y fantol nawr.

Mae'n debyg iawn y bydd rhaid i aelodau seneddol basio mesur newydd yn y senedd, ac fe all hynny gymryd misoedd.

O ystyried canlyniad y refferendwm mae'n annhebyg y bydd aelodau seneddol yn atal y llywodraeth rhag bwrw ymlaen gydag erthygl 50, ond yn sicr fe fydden nhw'n awyddus i ddylanwadu ar y termau ar gyfer gadael.

Does gan y Llywodraeth San Steffan ddim mwyafrif yn Nhŷ'r Arglwyddi, ble mae'r mwyafrif o blaid aros - fe allan nhw wneud pethau'n anodd i Theresa May.

Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn siomedig gyda'r dyfarniad, does dim dwywaith y bydden nhw nawr yn gorfod ail feddwl eu strategaeth yn llwyr ar gyfer gadael.

'Dim sail'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi beirniadu dyfarniad yr Uchel Lys, gan ddweud mai cyfrifoldeb y Senedd yw gweithredu penderfyniad y bobl, nid ei danseilio.

"Cafodd y Senedd gyfle i ddweud ei dweud pan gafodd y refferendwm ei chymeradwyo gan ddeddf seneddol," meddai.

"Does dim sail ar gyfer pleidlais arall yn y Senedd, dim ond rheswm i geisio rhwystro llwybr democratiaeth.

"Bydd unrhyw ymdrech i ddadwneud canlyniad y refferendwm yn ennyn ymateb dig a rhwystredig gan y cyhoedd."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae AS Ceidwadol Mynwy, David Davies wedi beirniadu'r penderfyniad yr Uchel Lys

'Osgoi archwilio'

Dywedodd Jo Stevens AS, llefarydd yr wrthblaid ar Gymru mewn datganiad: "Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn ceisio osgoi unrhyw archwilio drwy ddweud y bydd yn dechrau Erthygl 50 heb bleidlais y Senedd.

"Mae dyfarniad yr Uchel Lys heddiw'n darparu cadarnhad clir y bydd yn rhaid i'r Senedd bleidleisio er mwyn i broses Erthygl 50 ddechrau.

"Rhaid i'r Senedd a'i haelodau seneddol etholedig gael goruchwyliaeth ddemocrataidd o agwedd y llywodraeth at drafodaethau a thelerau terfynnol gadael yr UE.

"Rhaid i'r Prif Weinidog adolygu ei hagwedd ar frys."

'Effaith andwyol'

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards wedi croesawu'r dyfarniad

Mae Plaid Cymru wedi croesawu dyfarniad yr Uchel Lys gan ddweud ei bod yn "iawn" y dylai Senedd y DU gael dweud eu dweud, ond y dylai'r Cynulliad gael y cyfle i wneud hynny hefyd.

"Yn bwysicach na'r bleidlais ar Erthygl 50, mae beth fydd yn digwydd wedi hynny," meddai llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Jonathan Edwards.

"Fe wnaeth pobl Cymru bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd a rhaid i ni barchu'r penderfyniad yna, ond does neb wedi pleidleisio dros 'Brexit caled'.

"Bydd llusgo Cymru allan o'r farchnad sengl a'r undeb dollau yn ogystal â'r Undeb Ewropeaidd yn cael effaith andwyol ar yr economi, a byddwn yn parhau i wrthwynebu unrhyw ymdrech i wneud hynny."