Y merched arloesol

Mae 3 Tachwedd 2016 yn ddiwrnod arwyddocaol yn hanes yr Eglwys yng Nghymru. Mae'r Parch Joanna Penberthy wedi ei hethol yn Esgob newydd Tyddewi, yr esgob benywaidd cyntaf yng Nghymru.

Dyma olwg ar rai o ferched eraill Cymru lwyddodd i dorri tir newydd.


Image caption Frances Hoggan

Frances Hoggan - Y meddyg benywaidd cyntaf o Gymru

Cafodd Frances Morgan ei geni yn Aberhonddu yn 1843, yn ferch i giwrad. Cafodd ei magu yn y Bontfaen cyn astudio meddygaeth ym Mharis a Düsseldorf. Enillodd ei chymwysterau meddygaeth yn Zurich yn 1870 wedi iddi hi gwblhau cwrs 6 blynedd yn hanner yr amser. Wedi priodi fe symudodd i Lundain ble roedd hi'n arbenigo mewn clefydau menywod a phlant. Hi a'i gŵr, Dr George Hoggan, oedd y cwpl priod cyntaf ym Mhrydain i sefydlu gwasanaeth meddygol ar y cyd.


Image caption Gwenllian Morgan

Gwenllian Morgan - Maer benywaidd cyntaf Cymru

Ar 9 Tachwedd 1910, cafodd Gwenllian Morgan maer benywaidd cyntaf Cymru ei hethol yn Aberhonddu. Hon, ar y pryd, oedd un o'r swyddi uchaf oedd modd ei chael o fewn llywodraeth leol. Mae llwyddiant Gwenllian Morgan hyd yn oed yn fwy arbennig o ystyried nad oedd gan ferched yr hawl i bleidleisio ar y pryd.


Image copyright Alamy
Image caption Irene Steer (dde pellaf) Y Gymraes gyntaf i ennill medal aur Olympaidd

Irene Steer - Y Gymraes gyntaf i ennill medal aur yn Gemau Olympaidd

Nofwraig oedd Irene Steer o Gaerdydd, a oedd yn arbenigo yn y dull rhydd. Fe enillodd hi ei medal aur yn y ras gyfnewid 4x100 yn y Gemau Olympaidd yn Stockholm yn 1912. Chafodd ei champ mo'i hefelychu tan i Nicole Cooke ennill medal aur yn Beijing yn 2008 yn y ras feicio ar y ffordd. Ers hynny mae Jade Jones wedi ennill dwy fedal aur yn y Tae Kwon Do yn Llundain a'r haf yma yn Rio.

Wedi ymddeol fe barhaodd cysylltiad Irene Steer â byd y campau gan iddi briodi William Nicholson ddaeth yn Gadeirydd ar glwb pêl-droed Caerdydd.


Image caption Y Fonesig Megan Lloyd George

Y Fonesig Megan Lloyd George - Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Cymru

Cafodd y Fonesig Megan Lloyd George ei hethol i gynrychioli etholaeth Ynys Môn yn San Steffan yn 1929. Trwy wneud hynny mi ymunodd â'i thad, y cyn-brifweinidog David Lloyd George, ar feinciau'r Rhyddfrydwyr.

Wedi i ddylanwad y Rhyddfrydwyr bylu ar ôl y rhyfel fe ymunodd gyda'r blaid Lafur gan ennill is-etholiad i'r blaid honno yng Nghaerfyrddin yn 1957.


Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Elsie Jane Baldwin

Elsie Jane Baldwin - Plismones gyntaf Cymru

Yn 1947 Joan Baldwin oedd y fenyw gyntaf i'w phenodi gan Heddlu Sir Forgannwg. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe ymunodd hi â'r Heddlu Milwrol a bu'n gwasanaethu yn Reading a Lerpwl.

Ei phrif ddyletswyddau oedd delio gyda merched a phlant. Roedd ganddi hi hefyd gyfrifoldeb am achosion o hunanladdiad mewn ysbytai seiciatryddol.


Image caption Nicola Davies

Y Fonesig Nicola Davies QC - Y Gymraes gyntaf i'w phenodi yn Gwnsler y Frenhines

Roedd Nicola Davies, yn arbenigo mewn materion o esgeulusdod meddygol pan gafodd hi ei phenodi yn Gwnsler y Frenhines yn 1992 yn 39 oed. Ymhlith yr achosion llys mwyaf iddi hi fod yn rhan ohonynt oedd achos y llofrudd Harold Shipman. Y ferch o Lanelli oedd yn amddiffyn y meddyg teulu o ardal Manceinion. Mi gafodd hi ei phenodi yn Farnwr yn 2013.


Image caption Cymraes falch ar gopa Everest

Tori James - Y Gymraes gyntaf i goncro Everest

Roedd Tori James yn llythrennol ar ben y byd pan lwyddodd hi i ddringo i gopa Everest yn 2007. Hi oedd y Gymraes gyntaf i gyflawni'r gamp a'r ferch ieuengaf o wledydd Prydain.

Bu bron iddi hi droi nôl ar ôl diodde' salwch, ond mi gariodd hi 'mlaen, a hynny tra'n gwrando ar gerddoriaeth Bryn Terfel, Katherine Jenkins, y Manics a Stereophonics. Mi wnaeth hynny ei hatgoffa hi o Gymru a'i hysbrydoli i barhau gyda'r daith a chael y cyfle i blannu'r Ddraig Goch ar gopa mynydd mwya'r byd.


Image caption Yr Archdderwydd Christine

Yr Archdderwydd Christine

Y bardd Christine James oedd y ferch gyntaf i'w hethol i brif swydd yr Orsedd. Dechreuodd ar ei dyletswyddau yn Eisteddfod Dinbych yn 2013. Daeth ei thymor i ben yn Eisteddfod Maldwyn yn 2015.

Wedi graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth, enillodd y ferch o Donypandy ddoethuriaeth ym maes testunau Cyfraith Hywel Dda.

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn 2005. Mae hi bellach yn uwch-ddarlithydd yn Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe.