Aaron Ramsey a Jonny Williams yn ôl yng ngharfan Cymru

Ramsey a Williams Image copyright Getty Images

Mae Aaron Ramsey a Jonny Williams yn ôl yng ngharfan Cymru i wynebu Serbia yn eu gêm ragbrofol Cwpan Y Byd 2018 yng Nghaerdydd ar 12 Tachwedd.

Fe wnaeth chwaraewr canol cae Arsenal fethu'r fuddugoliaeth yn erbyn Moldova a'r ddwy gêm gyfartal yn erbyn Awstria a Georgia oherwydd anaf i'w goes.

Llwyddodd i chwarae 75 munud ym muddugoliaeth ei glwb yn erbyn Ludogorets nos Fawrth.

Mae cyd-chwaraewr canol cae Ramsey, Jonny Williams hefyd yn dychwelyd i'r garfan wedi anaf.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Owain Llyr yn dadansoddi dewis Chris Coleman

Mae Cymru yn drydydd yng Ngrŵp D ar hyn o bryd, gyda Serbia ar y brig.

Dywedodd y rheolwr, Chris Coleman: "Mae Aaron yn edrych yn dda. Mae'n edrych yn ffit. Mae'n rhan enfawr o'r hyn dy'n ni'n ceisio ei wneud, gyda'r talent anferthol sydd ganddo.

"Mae hi'n dda ei fod wedi chwarae cymaint, ac wedi creu gôl [nos Fawrth]."

Y garfan yn llawn

Wayne Hennsessey (Crystal Palace), Danny Ward (Lerpwl, ar fenthyg yn Huddersfield), Owain Fon Williams (Inverness);

Ben Davies (Tottenham), James Chester (Aston Villa), James Collins (West Ham), Paul Dummett (Newcastle), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Everton);

Joe Allen (Stoke), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Emyr Huws (Caerdydd), Andy King (Caerlŷr), Tom Lawrence (Caerlŷr, ar fenthyg yn Ipswich), Joe Ledley (Crystal Palace), Shaun MacDonald (Wigan), Aaron Ramsey (Arsenal);

Gareth Bale (Real Madrid), Jonny Williams (Crystal Palace, ar fenthyg yn Ipwsich), David Cotterill (Birmingham), Hal Robson-Kanu (West Bromwich Albion), Sam Vokes (Burnley).