Wedi marwolaeth ei dad, Alun Wyn Jones ddim ar gael i Gymru

Alun Wyn Jones Image copyright Huw Evans picture agency

Ni fydd clo Cymru, Alun Wyn Jones, ar gael i wynebu Awstralia yng ngêm gyntaf cyfres yr Hydref yn dilyn marwolaeth ei dad.

Dydd Mawrth fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru drydar eu cydymdeimlad i'r blaenwr yn dilyn marwolaeth Tim Jones.

Dywedodd yr Undeb oherwydd y newyddion trist "ni fydd Alun Wyn yn cael ei ystyried ar gyfer y garfan" ar gyfer y gêm yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

"Mae ein cydymdeimlad a'n gweddiau gydag Alun Wyn Jones a'i deulu," meddai'r Undeb.

Roedd Tim Jones yn arfer chwarae i Glwb Rygbi Abertawe ac i brifysgolion Cymru.

Fe fydd munud o dawelwch cyn gêm Abertawe yn erbyn Glyn Ebwy ddydd Iau er cof amdano.

Dywedodd Terry Morgan, cadeirydd clwb Abertawe: "Fe 'nes i chwarae gyda Tim yn y 60au, roedd o'n flaenllaw yng Nghymdeithas Cyn Chwaraewyr Abertawe ers ei sefydlu yn 1981.

"Bu'n sâl am beth amser ond heb gwyno dim."

Daw'r newyddion yn sgil y cyhoeddiad na fydd capten Cymru, Sam Warburton, ar gael chwaith oherwydd anaf i'w wddw.

Mae'n debyg y bydd Cymru yn dewis y blaenasgellwr Justin Tipuric i gymryd lle Warburton, gyda phenderfyniad yn cael ei wneud yn ddiweddarach yn yr wythnos ynglŷn â phwy fydd y capten.

Mae'r hyfforddwr Rob Howley wedi penderfynu oedi tan ddydd Iau tan cyhoeddi pwy fydd yn y garfan, er mwyn cael mwy o amser i asesu ffitrwydd rhai o'r chwaraewyr gan gynnwys y cefnwr Liam Williams.