Colli 69 o swyddi gyda chwmni peirianneg yn Sir Benfro

MPE

Mae 69 o swyddi wedi cael eu colli ac 88 arall mewn perygl wedi i gwmni peirianneg o Sir Benfro fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Fe wnaeth gwmni Main Port Engineering o Ddoc Penfro, oedd wedi derbyn grant £650,000 gan Lywodraeth Cymru, dderbyn gorchymyn dirwyn i ben fis diwethaf.

Roedd disgwyl i'r cwmni wynebu gwrandawiad yn yr Uchel Lys ddydd Llun, ond cafodd ei ohirio.

Mae'r gweinyddwyr, PwC wedi dweud ei fod yn ceisio achub rhannau o'r busnes.

O'r 157 o weithwyr y cwmni, fe wnaeth 69 golli eu swyddi yn syth.

Fe wnaeth y cwmni agor safle cynhyrchu newydd gwerth £1.8m ym mis Mehefin 2015, gyda'r nod o greu 30 o swyddi a diogelu'r 155 oedd eisoes yn gweithio yno.

Dywedodd y gweinyddwr, Roger Hale eu bod yn "gwneud popeth o fewn ein gallu i achub cymaint o swyddi â phosibl wrth i ni edrych i weld os gall unrhyw ran o'r busnes gael ei achub".