Gwiwerod: Dod o hyd i firws angheuol

Mae gwyddonwyr wedi dod o hyd i'r firws angheuol sydd wedi heintio gwiwerod coch ar Ynys Môn ag yng Ngwynedd.
Cafodd profion eu cynnal ar ôl i nifer o'r anifeiliaid gael eu canfod mewn coedwig ger Biwmares.
Dywed arbenigwyr for y gwiwerod wedi profi'n bositif i adenovirus.
Yn ôl Dr Craig Shuttleworth o brifysgol Bangor fe allai'r firws fod yn hynod heintus.
"Yn anffodus rydym hefyd wedi dod o hyd i'r firws am y tro cyntaf mewn anifail yng Ngwynedd yn ochrau Bangor."
Dywedodd Dr Shuttleworth fod anifeiliaid eraill, fel llygod, yn gallu lledu'r haint.
"Mae rhai anifeiliaid yn gallu cario'r firws a heb ddangos unrhyw symptomau, ond mae anifeiliaid eraill yn gallu marw o ganlyniad i'r firws."
Hyd yma mae'r gwiwerod sydd wedi eu heintio wedi bod mewn clystyrau sydd wedi eu hynysu.
"Rydym yn gobeithio na wnaiff y firws ledu ym mhellach."
Mae niferoedd y gwiwerod coch ar Ynys Môn wedi cynyddu o tua 40 yn 1998 i fwy na 700, ac mae cynllun ar y gweill i ailgyflwyno'r anifail i ardal benodol yng Ngwynedd.