'Gwrthodwch Fesur Cymru fel ag y mae', medd academydd

Richard Wyn Jones
Image caption Mae Richard Wyn Jones yn Athro ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae academydd blaenllaw wedi dweud na fyddai'n beio Llywodraeth Cymru am wrthod â phasio Mesur Cymru fel ag y mae ar hyn o bryd.

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales bod y ddeddfwriaeth yn ei ffurf bresennol yn "bell, bell o fod yn barod".

Mae Llywodraeth San Steffan yn gobeithio gweld y Mesur, sydd wedi bod yn cael ei thrafod yn y Cynulliad a Thŷ'r Arglwyddi, yn cael ei phasio cyn diwedd y flwyddyn.

Byddai'r pecyn yn datganoli rhagor o bwerau i Gymru dros feysydd fel ynni ac etholiadau, gan gyflwyno hefyd system o 'bwerau wedi'u cadw yn ôl' ble byddai San Steffan yn datgan yn benodol pa bwerau oedd heb eu datganoli i Gaerdydd, yn hytrach na pha rai sydd wedi.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones eisoes wedi dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn barod eto i gymeradwyo Mesur Cymru i Aelodau Cynulliad, ac mae ACau wedi rhybuddio bod y fersiwn newydd yn bygwth crebachu ar allu'r Senedd i ddeddfu.

Yn gynharach yn yr wythnos roedd Arglwyddi wedi rhybuddio y gallai'r Mesur "hau hadau" ar gyfer anghytuno yn y dyfodol rhwng llywodraethau Cymru a San Steffan.

'Neb â gair da'

"Mae wir yn anodd dod o hyd i rhywun, oni bai am y rheiny o gyfeiriad Llywodraeth y DU wnaeth ei lunio, sydd â gair da i'w ddweud amdano, yn sicr o ran y manylion," meddai Richard Wyn Jones wrth drafod y Mesur.

"Roedd gennym ni gonsensws trawsbleidiol ar symud i fodel o 'bwerau wedi'i cadw yn ôl', roedd momentwm y tu ôl i'r ddeddfwriaeth yma, a beth sydd yn hynod o ddigalon yw bod... unrhyw un sydd yn edrych arno nawr mewn ffordd wrthrychol yn gweld problemau sylfaenol.

"Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw un yn mynd i mewn i'r broses yn gobeithio ei fod yn methu. Hwn yw'r unig ddeddfwriaeth sydd ar y bwrdd, mae consensws nad yw'r drefn bresennol yn un boddhaol, ac felly mae pobl eisiau i hyn weithio.

"Mae sylwadau cynhyrchiol wedi dod o gyfeiriad Llywodraeth Cymru, y Cynulliad, y Llywydd ac yn y blaen, ac eto mae'r ddeddfwriaeth yn cael ei ruthro drwy'r Senedd yn San Steffan gydag ychydig iawn o newidiadau yn cael ei gwneud iddi hyd yn hyn."

Image caption Mae Carwyn Jones wedi dweud bod ganddo bryderon mawr am y Mesur

Ychwanegodd bod Swyddfa Cymru wedi bod yn ddigon parod i drafod newidiadau i'r Mesur, ond nad oedden nhw wedi llwyddo i ddylanwadu digon ar adrannau eraill o fewn Llywodraeth San Steffan.

Roedd angen edrych eto, meddai, ar y rhestr o bwerau fydd ar hyn o bryd yn cael eu cadw yn ôl, gan ei ddisgrifio fel "traed moch" fel ag y mae hi.

"Os ydych chi'n edrych ar y ddeddfwriaeth yn ei ffurf bresennol a gofyn a ydi o'n drefniant cyfansoddiadol sydd yn haeddu cael ei galw'n setliad go iawn, byddai'n rhaid i'r ateb fod yn 'Na', byddai'n rhaid ei wrthod," meddai Richard Wyn Jones.

Fe gyfaddefodd fodd bynnag bod dadl wleidyddol hefyd dros dderbyn y pecyn, o ystyried amgylchiadau presennol gan gynnwys ansicrwydd ynglŷn â pha bwerau allai gael eu pasio o Frwsel i Fae Caerdydd yn sgil Brexit.

"Ond o berspectif cyfreithiol a chyfansoddiadol yn unig, dwi'n meddwl y byddech chi'n gwrthod rhoi caniatâd iddo, a dwi'n meddwl y bydd o'n benderfyniad anodd i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad," ychwanegodd.