Gweilch 35-17 Dreigiau

Keelan Giles Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Keelan Giles wedi creu argraff ar yr asgell i'r Gweilch eleni

Fe sicrhaodd y Gweilch fuddugoliaeth pwynt bonws o 35-17 yn erbyn y Dreigiau yn Stadiwm Liberty diolch i ddwy gais yn yr ail hanner gan Keelan Giles.

Roedd Nick MacLeod wedi trosi cic gosb i roi'r Dreigiau ar y blaen yn gynnar ond er i brop y Gweilch, Dmitri Arhip gael cerdyn melyn fe fethodd yr ymwelwyr â manteisio.

Fe aeth y Gweilch ar y blaen wedi 23 munud wrth i'r mewnwr Tom Habberfield groesi ar gyfer cais gyntaf y gêm, ac roedd Scott Baldwin wedi ychwanegu ail cyn yr egwyl, gyda Josh Matavesi yn trosi'r ddwy.

Fe sicrhawyd y pwynt bonws yn yr ail hanner gyda dwy gais gan Giles, sydd bellach wedi sgorio wyth o geisiau yn ei bedair gêm ddiwethaf.

Ychwanegodd yr eilydd Brendon Leonard bumed cais gyda phum munud i fynd, cyn i Matthew Screech a Pat Howard sgorio ceisiau cysur hwyr i'r Dreigiau.