Accrington Stanley 1-3 Casnewydd

Jazzi Barnum-Bobb Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Jazzi Barnum-Bobb oedd sgoriwr ail gôl Casnewydd

Mae Casnewydd wedi ennill am y tro cyntaf ers mis Awst diolch i goliau gan Rhys Healey, Jazzi Barnum-Bobb a Josh Sheehan.

Ar ôl hanner cyntaf di-fflach, fe aeth tîm Graham Westley ar y blaen ofunudau wedi'r egwyl yn erbyn Accrington Stanley diolch i ergyd wych gan Rhys Healey.

Dyblwyd y fantais gydag ergyd dda arall gan Jazzi Barnum-Bobb, cyn i Janoi Donacien rwydo i Accrington gydag ychydig dros ddeng munud i fynd.

Fe seliwyd y fuddugoliaeth gan Josh Sheehan, sydd ar fenthyg o Abertawe, yn eiliadau olaf y gêm.