Ymddiheuriad am gamgymeriad camerâu cyflymder ar yr A55
- Cyhoeddwyd

Mae sefydliad diogelwch ffyrdd wedi ymddiheuro ar ôl i yrrwyr gael eu dal ar gam gan gamerâu cyflymder ar yr A55 ger Conwy.
Roedd nifer o yrrwyr wedi derbyn llythyr yn eu cyhuddo o yrru'n rhy gyflym drwy dwnel Conwy ar yr A55.
Ond er bod gwaith ffordd dros nos wedi dod i ben ar 21 Hydref, doedd neb wedi newid y cyfyngiad cyflymder o 40 milltir yr awr oedd wedi'i osod ar y camerâu.
Dywedodd sefydliad diogelwch ffordd GoSafe eu bod yn "difaru nad oedd y camerâu wedi cael eu diffodd a bod data cyflymder yn dal i gael ei brosesu gan y camerâu cyflymder cyfartalog rai oriau'n ddiweddarach".
Fe fydd Heddlu Gogledd Cymru yn anfon ail lythyr at y gyrrwyr sydd wedi eu heffeithio er mwyn esbonio'r camgymeriad.