Cemegau: Gwagio rhan o gampws Prifysgol Abertawe

Swansea University Image copyright Alex Jones

Mae pobl wedi cael eu symud o rhan o gampws Prifysgol Abertawe wedi i gemegau gael eu darganfod ar y safle.

Dywedodd y brifysgol mae gweithred "rhagofalus" oedd hyn.

Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw am 13:30 ddydd Iau, ac fe osodwyd rhwystr o gwmpas rhan o'r safle yn dilyn pryderon am stori cemegau yn ddiogel.

Does neb wedi cael eu hanafu, ond fe gafodd dwy injan eu gyrru gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yno ac mae swyddogion yn cynghori pobl.

Yn ôl un myfyriwr, Alex Jones, roedd "rhywfaint o banig" ar ddechrau'r digwyddiad, ac fe gafodd rhai darlithoedd eu symud i adeiladau eraill.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y rhwystrau wedi eu gosod fel mesur rhagofalus wrth i'r cemegau gael eu symud o'r safle.

Ychwanegodd nad yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus, ac nad oedd risg i'r cyhoedd.