Carchar i ddyn am fygwth rhoi dynes ar dân a'i threisio
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am 12 mlynedd am fygwth rhoi dynes 19 oed ar dân cyn ei threisio.
Fe wnaeth Dean Edwards, 39 oed, hefyd daro pen y ddynes ifanc yn erbyn drych a gorchuddio ei cheg rhag iddi sgrechian.
Roedd Edwards, o ardal Tredelerch yn y brif ddinas, eisoes wedi ei gael yn euog o dreisio ac o achosi niwed corfforol.
Yn ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd y barnwr y byddai'n rhaid iddo dreulio o leiaf wyth mlynedd dan glo.
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Byron Broadstock wrth y llys fod Edwards â sawl euogfarn flaenorol am ymosodiadau ar fenywod.
Wrth ddedfrydu Edwards, dywedodd y barnwr Michael Fitton bod hyd y ddedfryd yn adlewyrchu troseddau blaenorol Edwards yn erbyn merched.