Cymeradwyo cynllun i ailagor ac ehangu chwarel Creigiau

Mae Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cais dadleuol i ailagor ac ehangu chwarel ym mhentref Creigiau ger y ddinas.
Fe benderfynodd y pwyllgor cynllunio i ganiatáu'r cais brynhawn ddydd Mercher.
Mae cynllun wedi denu gwrthwynebiad gan rai, gan gynnwys grŵp No to Creigiau Quarry, sy'n dweud y bydd yn achosi llygredd, difrod i adeiladau ac yn creu tagfeydd ar y ffyrdd.
Maent hefyd yn pryderu y bydd y sŵn a'r llwch yn effeithio ar blant yn Ysgol Gynradd Pentyrch, ysgol sydd wedi ei lleoli dau gau i ffwrdd o'r chwarel.
Mae cwmni Tarmac wedi dweud yn y gorffennol y bydd y chwarel yn ffynhonnell bwysig o galchfaen, a'u bod wedi cytuno ar gyfyngiadau traffig.
Ddydd Mercher, dywedodd y cwmni eu bod yn hapus gyda phenderfyniad y pwyllgor cynllunio.