Colera Caernarfon

Caernarfon yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg Image copyright Getty Images
Image caption Caernarfon yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg

Mae 150 o flynyddoedd wedi pasio ers i achosion o golera daro Caernarfon gan ladd 77 o bobl y dref. Cyn diwedd y bedwaredd ganrif a'r bymtheg daeth y clwy yn ei ôl i'r dref gan olygu bod cyfanswm o 146 o bobl wedi colli eu bywydau i'r afiechyd marwol.

"Roedd poblogaeth Caernarfon wedi chwyddo o llai na 2,000 yn 1801 i dros 12,000 erbyn 1891 oherwydd y diwydiant llechi, y siopa mawr, argraffdai ac ati," eglurodd yr hanesydd lleol Emrys Llewelyn.

"Felly roedd y landlords diegwyddor 'ma'n codi cytiau yn y dre - amryw ohonyn nhw ar le sy'n cael ei 'nabod fel Stryd Waterloo heddiw, ond hefyd Stryd Llyn ac hefyd yn ardal Segontiwm lle mae 'na dai mawr rŵan.

"Yn y cytiau 'ma roedd yna un toiled ar gyfer 20 o bobl, felly yn sicr roedd 'na siawns go dda y byddai afiechydon yn lledaenu'n gyflym. Roedd 'na ffynhonnau rownd y dre - un wrth Eglwys Llanbeblig, roedd yna un arall ar y Maes ei hun ac un ar y stryd fawr yn ymyl y farchnad.

"Cafodd 77 o bobl eu lladd ar ôl dioddef o colera neu'r 'clwy gwyn' ym mis Hydref 1866, ond roedd yna ddau achos mawr arall o'r afiechyd yng Nghaernarfon cyn diwedd y ganrif," meddai Emrys Llewelyn.

Mae Dr Cynon Tomos, oedd yn gweithio yn adran afiechydon heintus Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd, yn esbonio achosion colera.

"Bacteria ydi colera sydd yn cael ei achosi gan bacteria o'r enw vibrio cholerae, a mae o'n cael ei drosglwyddo o un person i'r llall drwy'r hyn sy'n cael ei alw'n sical-oral route," meddai. "Dim ond pobl sy'n gallu dioddef o golera, ac mae'n datblygu mewn carthion neu ddŵr sydd wedi ei heintio efo carthion.

Image caption Papur newydd yng nghanol y bedwaredd ganrif a'r bymtheg yn cynghori darllenwyr ar sut i osgoi colera

"Mae'n mynd i'r geg ac lawr i'r stumog, ac er bod y rhan fwyaf yn cael ei chwalu gan yr asid yn y stumog, mae rhai bacteria yn goroesi ac yn cyrraedd y coluddyn bach. Mae'r bacteria yn glynu i wal y coluddyn ac mae nhw'n newid o fod yn facteria sy'n gallu nofio o gwmpas i fod yn facteria sy'n cynhyrchu tocsin colera, a hwnnw sy'n rhoi y symptomau erchyll i bobl.

"Mae colera'n chwalu balans y celloedd i gadw dŵr a hylwynau fel potasiwm, sodiwm a clorin yn y corff. Mae'r holl halwyna 'ma'n mynd fewn i'r coluddyn a mae'r dŵr yn ei ddilyn - ma'n gwneud hynna a wedyn mae rhywun yn cynhyrchu 'dolur rhydd dŵr reis'. Mae'n stwff ofnadwy ac heb driniaeth fe all berson gynhyrchu rhwng 10 a 20 litr ohono mewn diwrnod - drwy ddolur rhydd a chyfogi."

Arloesi meddygol

Yn ôl Emrys Llewelyn roedd cael cyflenwad dŵr glân i bobl Caernarfon y dre' yn hollbwysig.

"Cafodd y dre' gyflenwad o ddŵr glân yn dilyn ymdrechion Llywelyn Turner, Maer y dre ar y pryd," eglurai Emrys. "Cafodd £10,000 ei roi gan gyngor tref Caernarfon i wneud y gwaith - tipyn o arian ar y pryd!

"Cafodd ffynnon hyfryd ei chodi ar y maes yn yr 1870au i ddathlu bod cyflenwad dŵr wedi dod i Gaernarfon, ac mae'n warth i ddweud gwir ei bod bellach wedi ei thynnu i lawr. Mae rhan o'r hen ffynnon yn dal i fodoli ar dop Stryd Llyn.

"Y tlodion wnaeth ddiodde' efo'r afiechyd - roedd y gan y rhai efo arian eu dŵr glân a roeddan nhw'n cadw'n glir o'r tlodion."

Roedd yna arloesi mawr ym myd meddygaeth ynghanol y bedwaredd ganrif a'r bymtheg yn ôl Dr Thomas, ond doedd hyn ddim yn ddigon i helpu rhai o bobl Caernarfon.

Dywedodd: "Roedd 'na feddygon a oedd yn trio 'gwaedu' eu cleifion a'u cael i daflu fyny a 'pyrjio' i gael y drwg allan. Ond roedd hynny i'r gwrthwyneb i be' oedd y cleifion ei angen mewn gwirionedd.

"Gwyddonydd o'r enw John Snow yn ardal Soho o Llundain wnaeth y cyslltiad rhwng colera â'r dyflenwad dŵr, ac fe newidiodd hynny ddipyn ar driniaeth a oedd y dioddefwyr yn ei dderbyn. Heb driniaeth mae 50%-60% o ddioddefwyr colera yn marw.

Image caption John Snow, y gwyddonydd a oedd yn astudio achosion colera

"Mae yna lai na 1% o siawns y byddai rhywun yn mawr o golera heddiw ym Mhrydain ohewrydd bod y triniaethau wedi gwella.

"Yn ystod 2013-14 dim ond chwe achos o colera oedd yn ysbytai Cymru a Lloegr, ac roedd y dioddefwyr i gyd wedi teithio yma o wledydd y trydydd byd ble mae'r clefyd yn dal i fodoli.

"Dydy colera ddim wedi cael ei drosglwyddo o berson i berson ym Mhrydain ers dros ganrif. Ond mae o'n dal i fod yn glefyd cyffredin mewn gwledydd tlawd.

"Mae bron i 10,000 o bobl wedi marw o colera yn Haiti ers y daeargryn mawr yno yn 2010. Mae'n anhebyg y gwelwn ni achosion ar raddfa fawr yma yng Nghymru eto oni bai am newid mawr yn y ffordd 'da ni'n byw."