Cymru ymysg y gorau yn Ewrop am ailgylchu gwastraff

Gwastraff

Mae'n "gwbl bosib" y gallai Cymru fod y wlad orau yn Ewrop o ran ailgylchu gwastraff cyn hir.

Dyna mae'r Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd wedi'i ddweud, gan gyfeirio at dablau gan yr Undeb Ewropeaidd sy'n awgrymu y byddai Cymru, petai'n aelod unigol, yn y pedwerydd safle.

Yn y cyfamser, mae ffigyrau ailgylchu terfynol 2015/16, gafodd eu cyhoeddi fis yma, yn dangos bod Cymru'n arwain gweddill y DU.

Cafodd 60.2% o wastraff Cymru ei ailgylchu - dwbl y ffigwr ddegawd yn ôl.

Mae hefyd yn well na tharged Llywodraeth Cymru o 58%, sy'n newyddion "dymunol iawn" yn ôl Lesley Griffiths.

Mae'r targedau sydd wedi'u gosod ar gyfer awdurdodau lleol yn rhannol gyfrifol am lwyddiant Cymru wrth ail-gylchu, yn ôl Rebecca Colley-Jones o Brifysgol Bangor sy'n arbenigo ar y sector.

Y targed nesaf i'w gyrraedd yw bod 64% o wastraff yn cael ei ailgylchu erbyn 2020, a 70% erbyn 2025.

"Llywodraeth Cymru yw'r unig weinyddiaeth ddatganoledig sydd wedi gosod targedau cyfreithiol hyd at 2025," meddai Ms Colley-Jones.

"Ac oherwydd hynny mae cynghorau lleol wedi gweld y peth fel rhywbeth i'w flaenoriaethu - ac maen nhw wedi gosod mesurau i wneud yn siŵr ein bod ni'n ailgylchu."

Yr Almaen ar y brig

Mae'r tablau Ewropeaidd diweddaraf, sy'n defnyddio data o 2012 pan oedd Cymru yn ailgylchu 52% o'i wastraff, yn gosod yr Almaen ar y brig (65%), Awstria yn ail (62%) a Gwlad Belg yn drydydd (57%).

Mae Ms Colley-Jones yn rhannu hyder Ms Griffiths y gallai Cymru fod y gorau cyn hir.

"Dydyn ni ddim yn bell bant ac os nawn ni barhau a'r momentwm yn nhermau trechu'r targed 70% yna mae bod y gorau yn Ewrop yn gyraeddadwy," meddai.

Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, gafodd ei gyhoeddi fis yma, yn cynnwys toriad i'r arian sy'n mynd tuag at reoli a chynnal strategaeth wastraff y llywodraeth.

Wrth gael ei holi ynglŷn â goblygiadau hynny i'w huchelgais, dywedodd Ms Griffiths wrth BBC Cymru nad "cyllid oedd y cyfan".

"Gwaith caled awdurdodau lleol a dyhead teuluoedd i ailgylchu sy'n bennaf gyfrifol am ein llwyddiant," meddai.

"Ry'n ni wedi rhoi llawer o ymdrech i hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a llawer o gyllid hefyd. Ond ewyllys sy'n bwysig yn y pendraw, ac mae'r ewyllys yna i'w weld yn amlwg iawn."

Tri chyngor yn methu

Er hynny, mae pocedi ar draws y wlad ble mae her i uchelgais yr ysgrifennydd yn amlwg.

Llwyddodd 19 o'r 22 awdurdod lleol gyrraedd neu drechu'r targed i ailgylchu 58% o wastraff rhwng 2015-16.

Mae cynrychiolwyr o Gasnewydd (57%), Torfaen (57%) a Blaenau Gwent (49%) wedi derbyn cyfarwyddyd i fynd i weld yr ysgrifennydd i esbonio'u trafferthion ac mae'n bosib y gallai'r cynghorau hynny wynebu dirwyon yn y pen draw.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Huw George yn egluro pam fod ailgylchu wedi cydio yn Sir Benfro a Cheredigion

Yn y cyfamser, mae'r ddau gyngor sy'n gwneud orau - Ceredigion (68%) a Sir Benfro (65%) - yn cynnal arbrawf i rannu adnoddau mewn ymdrech i gynyddu eu ffigyrau ymhellach.

Mae'r ddau awdurdod wedi derbyn arian grant gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o'u gwasanaethau casglu gwastraff.

Mae Sir Benfro eisoes yn darparu lori a gyrrwr ar gyfer treialu cynllun casglu gwydr yn Aberteifi a Phenparc, cyn i benderfyniad gael ei wneud a ddylid ehangu'r gwasanaeth i weddill Ceredigion.

"Roedd Ceredigion wedi gweld yr hyn yr oedden ni'n ei wneud gyda gwydr," meddai'r Cynghorydd Huw George, aelod cabinet dros yr amgylchedd ar Gyngor Sir Penfro.

"Felly roedden ni wedi meddwl sut allan ni helpu? Unwaith yr wythnos mae gennym ni lori a gyrrwr yn sbâr - felly ry'n ni'n ei anfon daw i Geredigion, gyda'u staff nhw wedyn yn gwneud y gwaith casglu.

"Rhannu adnoddau yw hi - ac wrth i ni symud yn ein blaen falle taw dyma'r ffordd y byddwn ni'n ailgylchu fwy a mwy. Os mae'n gwella'r gwasanaeth ac yn helpu'r amgylchedd yna pam lai?"