Lyon 13-31 Gweilch

keelan Giles Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r Gweilch ar frig Grŵp Dau yng Nghwpan Her Ewrop wedi buddugoliaeth yn Lyon.

Keelan Giles oedd y seren, gan sgorio tri chais ar ôl i gic gosb a chais Sam Davies roi'r ymwelwyr ar y droed flaen.

Fe darodd Curtis Browning yn ôl ddechrau'r ail hanner i roi llygedyn o obaith i Lyon, ond fe diriodd Sam Parry i sicrhau'r pwynt bonws i'r Gweilch.

Cafodd Franck Romanet gais cysur i'r Ffrancwyr - ond y Cymry aeth â hi, ac mae'r Gweilch yn hedfan gyda dwy fuddugoliaeth mewn dwy gêm.