Enisei-STM 38-18 Dreigiau

Kingsley Jones Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd hyfforddwr y Dreigiau, Kingsley Jones, yn rheoli tîm cenedlaethol Rwsia rhwng 2011 a 2015

Colli'n drwm oedd hanes y Dreigiau ar eu hymweliad ag Enisei-STM yn Rwsia yn y Cwpan Her.

Fe sgoriodd y tîm cartref bum cais - dau gan Stanislav Selskii, dau gan Dmitrii Gerasimov ac un gan Valery Morozov.

Yr unig gysur i'r ymwelwyr oedd ceisiau gan Pat Howard a Sam Beard.

Dywedodd eu rheolwr, Kingsley Jones, bod "dim esgus" am y perfformiad.

"Mae'n rhaid i ni edrych ar rai pethau a sicrhau ein bod yn taro'n ôl yn sydyn", meddai Jones, fu'n hyfforddi yn Rwsia am rai blynyddoedd.

Mae Enisei-STM, sy'n chwarae yn ninas Krasnodar, ar frig Grŵp Tri gyda naw pwynt o ddwy gêm. Mae'r Dreigiau'n ail ar bum pwynt.