Wrecsam 2-1 Bromley

Shuan Harrad Image copyright Rex Features
Image caption Mae Shaun Harrad wedi chwarae i Notts County, Burton Albion a Torquay United hefyd

Fe sgoriodd Shaun Harrad ei drydedd gôl mewn tair gêm wrth i Wrecsam guro Bromley.

Ymatebodd yr ymwelwyr i gôl hanner cyntaf Harrad pan rwydodd Blair Turgott.

Ond gyda 10 munud i fynd, fe sgoriodd Gerry McDonagh i roi'r tîm cartref ar y blaen.

Mae Wrecsam, sydd dan reolaeth dros dro Dean Keates ac Andy Davies, yn codi i'r 14eg safle yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.