Achos camdrin ym Mangor: Cwestiynu ymateb yr NCA

nca Image copyright PA

Mae aelod Cynulliad Ynys Môn yn dweud fod gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol gwestiynau i'w hateb ynglŷn â'r ffordd y gwnaethon nhw ymdrin ag achos dynes sy'n honni iddi gael ei chamdrin mewn cartref plant yn y 90au.

Mae'r ddynes - sy'n siarad ar raglen materion cyfoes Radio Cymru, Manylu ddydd Iau - yn dweud iddi hi gael ei hesgeuluso yng Nghartref Ty'r Felin, Maesgeirchen, Bangor ddechrau'r 90au a bod neb wedi gwrando ar ei chwynion ar y pryd.

Roedd hi wedi cael llythyr gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn dweud y byddai un o reolwyr cartref Tŷ'r Felin, Joseph Nefyn Dodd wedi cael ei erlyn am esgeulustod petai o'n fyw.

Maen nhw'n dweud bellach eu bod wedi newid eu meddwl, ac ar sail tystiolaeth newydd gan heddlu'r gogledd nad oedd cynnwys y llythyr gwreiddiol bellach yn ddilys.

Mae'r Aelod Cynulliad Rhun ap Iorwerth wedi cysylltu â'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i geisio cael atebion am y ffordd mae'r ddynes wedi cael ei thrin.

'Ddim yn lle neis'

Wrth siarad gyda Manylu am ei phrofiad yn y cartref, dywed y ddynes,

"Munud 'oeddet ti yn mynd drwy'r drws mi 'oeddet ti yn gwybod bod o ddim yn lle neis. Fatha pan ti'n mynd i stafell pan mae rhywun wedi cega - fel 'na drwy'r adeg.

"Mi roedd 'na hogan yna - mi roedd hi'n ofn drwy'r amser. Mi ddudodd wrthai - 'don't say anything, keep your head down'.

"Dwi'n cofio bod un o'r genod 'di perswadio fi i drio drygs..mi oeddwn i'n ifanc a stiwpid. Dwi'n cofio eu cymryd nhw a mi roeddwn i'n rili rili sal a'r staff yn gwrthod fy helpu fi a nghau i mewn stafell.

"Bore wedyn dwi'n cofio deffro ac aelod o staff yn deud 'you're still with us then'."

Ddwy flynedd yn ôl mi gysylltodd y ddynes - sydd ddim am i ni ddatgelu ei henw - â swyddogion ymchwiliad Pallial.

Mi sefydlwyd yr ymchwiliad hwnnw ym mis Tachwedd 2012 oherwydd pryderon fod ymchwiliadau blaenorol, gan gynnwys Waterhouse i honiadau o gamdrin hanesyddol, mewn cartrefi gofal yn y gogledd, ddim wedi bod yn ddigon trylwyr.

Ar sail ei datganiad mi gafodd lythyr gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn dweud y byddai un o reolwyr cartref Ty'r Felin, Joseph Nefyn Dodd, wedi cael ei erlyn am esgeulustod petai o'n fyw.

Bu farw Mr Dodd yn y flwyddyn 2000.

Does yna ddim awgrym bod y ddynes wedi ei chamdrin yn rhywiol.

'Cwestiynau yn sicr yn codi'

Ond yn gwbl annisgwyl, ac yn ddi-rybudd, ym mis Medi, mi alwodd dau o swyddogion yr Asiantaeth yn ei chartref i ddweud eu bod nhw wedi newid eu meddwl, ac ar sail tystiolaeth newydd gan heddlu'r gogledd nad oedd cynnwys y llythyr gwreiddiol bellach yn ddilys.

" 'Sgynno chi ddim ffydd ynddyn nhw. Mewn ffordd oedd gynno fi closure. Mae'n waeth rwan - ges i lythyr yn deud y basa nhw wedi mynd a fo i'r llys a rwan mae nhw wedi ei dynnu fo 'nôl. Dylia nhw fod checio bob dim i ddechrau - mae o i gyd yn confusing iawn. "

Mae'r Aelod Cynulliad Rhun ap Iorwerth bellach wedi cysylltu â'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i geisio cael atebion.

"Mae 'na gwestiynau yn sicr yn codi. Mi roddwyd rhyw fath o ddiweddglo iddi hi hefo'r datganiad perffaith glir y bydde - yn nhŷb yr Asiantaeth - y sawl roedd hi wedi ei gyhuddo o'i hesgeuluso hi yn gallu cael ei gyhuddo.

"Mae nhw wedi newid eu meddwl rwan.

"Dwi a dydi'r ferch ddim wedi cael eglurhad be yn union sydd wedi newid. Gobeithio y cawn ni'r eglurhad hwnnw."

"O ran swyddogion yn cyrraedd tŷ rhywun yn ddi-rybudd i drafod mater personol iawn - mater nad oedd hyd yn oed teulu yn ymwybodol ohono fo - dwi ddim wedi cael fy argyhoeddi eto mai dyma'r ffordd orau i weithredu," meddai.

Yn ôl datganiad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol:

"Yn ystod y pythefnos diwethaf rydym wedi cael gwybodaeth ychwanegol yn ymwneud ag esgeulustod hanesyddol ac wedi cyfarfod a thrafod hyn gyda'r dioddefwr. Does na ddim ymholiadau pellach yn digwydd rwan.

Mi ryda ni yn annog unrhyw un sydd wedi ei gadmrin yn y gorffennol i gael cyngor neu gefnogaeth ac i adroddiad y mater i'w heddlu lleol. "

Mae'r ddynes yn feirniadol iawn o system sydd, yn ei thŷb hi, ddim wedi rhoi cymorth na chefnogaeth iddi hi.

"Ti'n cnocio drysau pobl i gael help a ti'n gweld nhw yn eu cau nhw yn dy wyneb.

"Mae nhw'n deud wrthoch chi eu bod nhw yna i helpu - ond dydyn nhw ddim."

Bydd Manylu yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru heddiw am 12:30.