Cwpan FA: Tynged Wrecsam a Chasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r enwau wedi cael eu tynnu o'r het ar gyfer rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr y tymor hwn.
Mae dau dîm o Gymru yn y gystadleuaeth yn y rownd yma, sef Wrecsam - yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Stanford yn y rownd rhagbrofol olaf - a Chasnewydd.
Bydd Caerdydd ac Abertawe yn dod i mewn i'r gystadleuaeth yn ddiweddarach.
Fe fydd y ddau dîm o Gymru yn gorfod teithio oddi cartref yn y rownd gyntaf.
Bydd Casnewydd yn teithio naill ai i Gateshead neu Alfreton - fe gafon nhw hefyd gêm gyfartal yn y rownd rhagbrofol olaf.
Os fydd Wrecsam yn trechu Stanford yn y gêm ail-chwarae, fe fyddan nhw hefyd yn wynebu taith i ogledd ddwyrain Lloegr i herio Hartlepool.
Bydd yr holl gemau'n cael eu chwarae ar benwythnos 4-7 Tachwedd.