Dafydd El
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Elis-Thomas: 'Plaid Cymru heb ymateb ers datganoli'

16 Hydref 2016 Diweddarwyd 18:21 BST

Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd Plaid Cymru yn ystyried ei dyfodol fel plaid wleidyddol, ar ôl iddo benderfynu eistedd fel AC annibynnol.

Fe wnaeth y cyn-arweinydd adael Plaid Cymru nos Wener, gan ddweud wrth gangen leol o'r blaid y bydd yn eistedd fel aelod annibynnol ym Mae Caerdydd.

Mae'r Arglwydd Elis-Thomas yn cyhuddo'r blaid o fethu ag ymateb yn ddigon da i'r newidiadau yng Nghymru ers datganoli.