Y Gweilch yn chwalu Newcastle
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n noson hynod lwyddiannus i ranbarthau Cymru yng Nghwpan Her Ewrop, gyda thair buddugoliaeth allan o dair.
GWEILCH 45 - 0 NEWCASTLE
Fe drechodd y Gweilch eu gwrthwynebwyr o Loegr, Newcastle, gan sgorio saith cais - gyda Keelan Giles yn sgorio ddwywaith.
Dan Biggar, Rhys Webb, Ashley Beck, Scott Baldwin a Justin Tipuric sgoriodd y gweddill.
Roedd Newcastle wedi gwneud nifer o newidiadau i'r 15 gychwynnodd yn eu gêm ddiwethaf, ond bydd y Gweilch yn falch o gychwyn eu hymgyrch yn y Gwpan Her gyda buddugoliaeth, llechen lân a phwynt bonws.
DREIGIAU 37 - 13 BRIVE
Roedd 'na bwynt bonws i'r Dreigiau hefyd, wrth iddyn nhw drechu Brive o Ffrainc ar Rodney Parade.
Roedd hi'n gyfartal ar yr hanner - ond diolch i bedair cais mewn cyfnod byr ddechrau'r ail hanner, y tîm cartref aeth â hi.
Rynard Landman, Hallam Amos, Cory Hill, Adam Warren a Lewis Evans oedd sgorwyr y ceisiadau i'r Dreigiau.
BRYSTE 20 - 33 GLEISION
Fe sgoriodd Alex Cuthbert gais yn ei gêm gyntaf yn ôl i'r Gleision yn dilyn anaf.
Bryste aeth ar y blaen diolch i gais gan Max Crumpton.
Ond daeth y gŵyr o'r brifddinas yn ôl gyda Reynold Lee-Lo a Josh Turnbull yn tirio yn yr hanner cyntaf, a Cuthbert a Tom James yn yr ail hanner.