Staff canolfan waith yn yr ysbyty ar ôl i nwy ollwng
- Cyhoeddwyd

Mae aelodau o staff wedi cael eu cludo i'r ysbyty ar ôl i nwy ollwng mewn canolfan waith yng Nghaerdydd.
Roedd y staff yn gweithio yn adeilad Alexandra House ar Heol Y Bont-faen yn ardal Treganna.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ac mae arwyddion wedi cael eu rhoi yn y ffenest i roi cyngor i bobl oedd am fynychu'r swyddfa ddydd Iau.
Dywedodd llefarydd ar ran undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PBS) bod nifer o'u haelodau wedi derbyn triniaeth ocsigen yn yr ysbyty oherwydd pryder am wenwyno carbon monocsid.
Ychwanegodd yr undeb y byddan nhw'n cymryd rhan mewn unrhyw ymchwiliad ac yn dilyn unrhyw faterion iechyd a diogelwch posib fydd yn cael eu codi.
Fe gadarnhaodd y Weinidogaeth Gwaith a Phensiynau bod aelodau o staff wedi cael eu cludo i'r ysbyty.
"Mae Canolfan Waith Alexandra House yn Nhreganna ar gau ar hyn o bryd wedi gollyngiad nwy," meddai llefarydd.
"Rydyn ni wedi cysylltu â'r holl bobl oedd ag apwyntiadau heddiw er mwyn eu cynghori i beidio â dod i'r ganolfan waith. Fe fydd yr holl fudd-daliadau yn cael eu talu'n awtomatig."