Lluniau: Y Parc yn 65

Cyhoeddwyd

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn 65 oed ym mis Hydref 2016. Yn y parc mae mynyddoedd, llynnoedd, nentydd ac arfordir ysblennydd. Dyma ddetholiad o'r golygfeydd godidog sydd i'w gweld o fewn ffiniau'r parc.

ffynhonnell y llun, KrissWilliams
disgrifiad o’r llunYr Wyddfa. Yn 1,085 metr (3,560tr) o uchder dyma fynydd mwyaf Cymru
ffynhonnell y llun, HarryKennedy
disgrifiad o’r llunTraeth godidog Harlech ym Meirionnydd
ffynhonnell y llun, Visit Wales Image Centre
disgrifiad o’r llunBermo a Llanaber yn y cefndir yn edrych dros arfordir dramatig Meirionnydd
disgrifiad o’r llunCastell Carndochan, Llanuwchllyn
disgrifiad o’r llunMynyddoedd de Eryri gyda Phen Llŷn yn y cefndir
disgrifiad o’r llunTirwedd trawiadol Castell y Gwynt, ar y Glyder Fach
disgrifiad o’r llunLlyn Mwyngil, Tal y Llyn, rhwng Dolgellau a Machynlleth
disgrifiad o’r llunYr olygfa eiconig o Lynnau Mymbyr a Phedol Yr Wyddfa
ffynhonnell y llun, EdWebster
disgrifiad o’r llunBeddgelert, man poblogaidd gyda ymwelwyr sy'n dringo mynydd Moel Hebog ac sy'n dod i weld bedd y ci enwog
ffynhonnell y llun, Visit Wales Image Centre
disgrifiad o’r llunBont Abermaw, sy'n 700m o hyd, yn ymestyn dros yr Afon Mawddach ger y Bermo
ffynhonnell y llun, Tania&Artur
disgrifiad o’r llunYr olygfa o Reilffordd y Wyddfa
ffynhonnell y llun, Iolo Penri
disgrifiad o’r llunCastell Dolbadarn ger Llanberis, sy'n dyddio o'r 13G
ffynhonnell y llun, Bearded_snapper
disgrifiad o’r llunCader Idris yn ne Eryri, gyda Llyn Cau yng nghanol y llun
ffynhonnell y llun, ARG_FLICKR
disgrifiad o’r llunAran Fawddwy i'w gweld drwy'r niwl
ffynhonnell y llun, Visit Wales Image Centre
disgrifiad o’r llunCastell Harlech a Pen Llŷn yn y cefndir
ffynhonnell y llun, StuartMadden
disgrifiad o’r llunNant Ffrancon ger Bethesda, rhwng mynyddoedd y Glyderau a'r Carneddau. Rhewlif dros filoedd o flynyddoedd greodd y tirwedd dramatig
disgrifiad o’r llunMynyddoedd Eryri dan eira'r gaeaf