Andy Powell yn ymddeol o rygbi proffesiynol

powell Image copyright Huw Evans picture agency

Mae cyn-wythwr Cymru, Andy Powell wedi ymddeol o rygbi proffesiynol oherwydd anaf i'w ben-glin.

Dechreuodd y chwaraewr 35 oed ei yrfa gyda Chasnewydd, cyn cael cyfnodau gyda Chaerlŷr, y Scarlets, Gleision Caerdydd, y Wasps a Dreigiau Casnewydd Gwent.

Fe chwaraeodd Powell ei gêm gyntaf dros Gymru yn 2008, ac enillodd yr olaf o'i 23 o gapiau yn 2012.

Fe gafodd gryn sylw yn 2010, pan gafodd ei gyhuddo o yfed a gyrru ar ôl iddo yrru bygi golff ar draffordd yr M4.

Fe deithiodd i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig yn 2009, ond ni wnaeth chwarae yn ystod y daith.

Fe dreuliodd gyfnod gyda thîm rygbi'r gynghrair - Wigan rhwng 2013 ac 2014, cyn dychwelyd i rygbi'r undeb gyda'r Dreigiau.

Ymunodd Powell â Merthyr ym Mhencampwriaeth Cymru yn 2015, gan chwarae rhan allweddol yn eu hymdrech i ennill dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair.