Ymarferiadau milwrol rhyngwladol yng Ngwynedd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Peter Humphreys / Geograph
Disgrifiad o’r llun, Maes awyr Llanbedr

Fe fydd milwyr o wahanol wledydd yn cymryd rhan mewn ymarferiadau yng Ngwynedd fydd yn para am wythnos gan ddechrau dydd Sadwrn.

Fe fydd milwyr wrth gefn yn amddiffyn maes awyr Llanbedr ger Harlech, a hen atomfa niwclear Trawsfynydd, wrth i filwyr o Falaysia, Japan, Gweriniaeth Iwerddon a'r Unol Daleithiau gynnal ffug ymosodiad.

Hwn yw'r ymarferiad mwyaf o'i fath i'w gynnal yn y DU ers 2003.