£500,000 i gadw pen uwch y dŵr

protest
Image caption Roedd y gymuned leol wedi brwydro i achub y ganolfan rhag cau.

Mae pwll nofio yn Wrecsam sy'n cael ei redeg gan y gymuned wedi cael grant o £500,000.

Llywodraeth Cymru sydd wedi rhoi'r arian i ganolfan hamdden Plas Madoc.

Cafodd y ganolfan ei hachub gan bobl leol a chynghorwyr ddwy flynedd yn ôl.

Bydd yr arian yn mynd tuag at trawsnewid y ganolfan yn Acrefair sydd bellach wedi ei hail enwi yn Splash Magic.