Tân ar drên yng ngorsaf Caerffili

tân trên Image copyright @FENDERHOODY/TWITTER
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 17:26 nos Fawrth

Cafodd criwiau tân eu galw wedi tân ar drên yng ngorsaf Caerffili.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 17:26 nos Fawrth.

Ar un adeg roedd tair injan dân a 25 o swyddogion yn delio â'r fflamau yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Fe wnaeth y tân yn achosi oedi i wasanaethau eraill.

Roedd oedi o ddwy awr i deithwyr rhwng ardal y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd a Rhymni.

Dywedodd llefarydd ei bod yn bosib fod y tân wedi dechrau o dan un o'r cerbydau.

Image copyright JONNY WATERS/TWITTER