Myfyriwr yn Abertawe wedi marw yn dilyn gêm bêl-fasged

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Wales news service
disgrifiad o’r llunBu farw Dom Newton ar ôl cael ei daro'n wael nos Lun

Mae myfyriwr o gampws prifysgol Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe wedi marw ar ôl cael ei daro'n wael yn ystod gêm bêl-fasged.

Cafodd Dom Newton, oedd yn gapten ar dîm y brifysgol, ei ruthro i'r ysbyty toc wedi 21:00 nos Lun mewn cyflwr difrifol ar ôl i'r gwasanaethau brys gael eu galw.

Bu farw yn Ysbyty Treforys yn Abertawe ychydig yn ddiweddarach.

ffynhonnell y llun, Arall
disgrifiad o’r llunRoedd Dom Newton yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant

Dywedodd datganiad ar dudalen Facebook undeb myfyrwyr y brifysgol: "Rydym i gyd yn meddwl ac yn gweddïo dros deulu a ffrindiau ein capten pêl-fasged Dom Newton heddiw, fu farw dan amgylchiadau trasig neithiwr.

"Roedd Dom yn rhan fawr o fywyd prifysgol yn Abertawe ac fe fydd colled fawr ar ei ôl."

Ychwanegodd Prifysgol y Drindod Dewi Sant mewn datganiad eu bod "yn drist iawn o glywed y newyddion trasig am un o'n myfyrwyr".

"Hoffwn atgoffa'n myfyrwyr a'n staff bod ein tîm gwasanaethau myfyrwyr proffesiynol ar gael i gynnig cefnogaeth yn breifat."