Beth nesaf wedi'r X Factor?
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Beth nesaf i Kayleigh Morgan wedi'r X Factor?

3 Hydref 2016 Diweddarwyd 20:35 BST

Roedd 'na ddathlu i'r efeilliaid o Benarth, Brooks Way dros y penwythnos wrth iddyn nhw gyrraedd sioeau byw yr X Factor.

Ond roedd hi'n ddiwedd y daith i Kayleigh Morgan o Glydach.

Er iddi greu cryn dipyn o argraff ar y beirniaid mae hi 'nôl yng Nghymru a chafodd Alex Humphreys o Ffeil y cyfle i'w holi.