Yr artist o Bort Talbot, Andrew Vicari, wedi marw yn 84
- Cyhoeddwyd

Mae'r artist o Bort Talbot sydd wedi paentio rhai o bobl mwyaf enwog y byd, Andrew Vicari, wedi marw yn 84 oed.
Roedd yn adnabyddus am lunio portreadau o deulu brenhinol Saudi Arabia, ble'r oedd yn artist swyddogol i'r brenin.
Ymysg ei bortreadau eraill oedd Sophia Loren, Mao Tse-tung, Francois Mitterrand a Vladimir Putin.
Fe ddywedodd ei nai, Andrew Vaccari, ei fod wedi "newid hanes celf" yn y Dwyrain Canol.
Fe gafodd Mr Vicari ei eni ym Mhort Talbot yn 1938. Aeth i Ysgol Ramadeg Castell-nedd, cyn mynd i astudio celf gain yn Llundain o dan ofal Lucian Freud.
Bu'n byw mewn nifer o wledydd yn ystod ei yrfa, ac ar un adeg roedd yn un o'r 20 person mwyaf cyfoethog ym Mhrydain.
Bu farw wedi salwch yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
Dywedodd ei nai: "Yn amlwg mae'n amser anodd i'r teulu. Fe fydd e'n gadael bwlch mawr yn ein byd. Ond mae'n gyfle hefyd i ddathlu ei fywyd anhygoel.
"Fe newidiodd e hanes celf yn y Dwyrain Canol, ble mae e wedi gadael gwaddol go iawn. Mae 'na dair amgueddfa i'w waith.
Ychwanegodd: "Cafodd fywyd anhygoel ac mi fydden ni eisiau dathlu hyn rhyw ben. Fe oedd yr unigolyn mwyaf gwych i mi gyfarfod erioed."