Darganfod corff dyn mewn coed ym Mangor

Bangor Image copyright Google
Image caption Dywedodd yr heddlu bod corff y dyn wedi ei ddarganfod mewn ardal goediog ger archfarchnad

Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod mewn ardal goediog ger archfarchnad ym Mangor.

Cafodd y corff ei ddarganfod ger siop Tesco yn y ddinas ddydd Sul.

Dydi'r heddlu ddim yn credu bod ei farwolaeth yn amheus, ac nid yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y corff wedi ei ddarganfod wrth i swyddogion chwilio'r ardal am ddyn sydd ar goll o Ysbyty Gwynedd.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod wedi cysylltu gyda theulu'r dyn a'r crwner.