Elusen gofalwyr yn Abertawe yn dod i ben

Adeilad Image copyright Google

Mae elusen gofalwyr yn Abertawe wedi dweud na fyddan nhw yn medru cynnig ei gwasanaeth bellach.

Dywedodd Carers Trust Swansea Bay Crossroads Care Service ei bod wedi gwneud y penderfyniad i gau oherwydd newidiadau ar gyfer rheoliadau cyflogwyr a chynnydd mewn costau.

Mae'r elusen hefyd wedi dweud ei bod yn gweithio gyda'r cyngor ac eraill er mwyn ceisio lleihau'r effaith ar y gofalwyr maen nhw'n cefnogi.

Mis Awst fe gyhoeddodd cangen Canolbarth a Gorllewin Cymru ei bod yn uno gyda Hafal.