Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad â lori yng Ngwent

Police car

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 12:15 prynhawn ddydd Gwener ar ffordd Garn yr Erw ger Blaenafon.

Bu farw gyrrwr y car, oedd yn 26 oed ac yn byw yn lleol. Cafodd gyrrwr y lori fan anafiadau.

Mae swyddogion yn cynnig cymorth i deulu'r dyn ar hyn o bryd, ac mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw.