Seremoni BAFTA Cymru yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunMae Richard Harrington a Mali Harries wedi eu henwebu yng nghategoriau'r Actor ac Actores gorau

Mae sêr y byd teledu a ffilm yng Nghaerdydd ar gyfer seremoni BAFTA Cymru yn Neuadd Dewi Sant.

Bwriad y seremoni yw gwobrwyo darlledu a chynhyrchu ym maes ffilm a theledu yng Nghymru ac mae 21 o gategorïau.

Roedd y seremoni yn dechrau am 19:30 ac yn cael ei ffrydio'n fyw ar wefan BAFTA Cymru.

Ym mis Medi cafodd yr enwebiadau eu cyhoeddi ac ymhlith y cyfresi teledu sydd wedi eu henwebu mae Y Gwyll, 35 Diwrnod a'r ffilm nodwedd Yr Ymadawiad.

Mae'r rhaglenni ffeithiol 'Tim Rhys Evans - All in the Mind', 'Swansea Sparkle: A Transgendered Story' a 'Iolo's Brecon Beacons' hefyd wedi eu henwebu mewn gwahanol gategorïau.

Am y tro cyntaf eleni mae'r Cymry sydd gweithio ar gynyrchiadau rhwydwaith y Deyrnas Unedig yn gallu cael eu cydnabod am fod meini prawf y gwobrau wedi eu haddasu.

ffynhonnell y llun, Wales News Service
disgrifiad o’r llunMichael Palin yn cyrraedd gyda Terry Jones

Mae seren Monty Python, Terry Jones yn cael Gwobr Arbennig BAFTA am Gyfraniad i Ffilm a Theledu.

Mae'r actor a'r awdur gafodd ei eni ym Mae Colwyn wedi dweud ei fod yn dioddef o ddementia sydd yn effeithio ar ei allu i siarad.

Mae'r wobr yn cael ei chyflwyno gan Michael Palin a'i fab sydd yn derbyn y wobr.

Mae BAFTA Cymru hefyd wedi cyhoeddi mai Siân Grigg, yr artist colur sydd yn derbyn Gwobr Siân Phillips eleni.

ffynhonnell y llun, KIMBERLEY FRENCH
disgrifiad o’r llunSiân Grigg yn gweithio â Leonardo di Caprio ar ffilm The Revenant

Dywedodd Siân Grigg cyn y seremoni: "Cefais fy synnu pan gysylltodd BAFTA Cymru â mi i roi gwybod y byddwn yn derbyn Gwobr Siân Phillips! Roedd yn anrhydedd enfawr cael fy ystyried ac yn hyfryd i un o'r celfyddydau creadigol gael ei chydnabod yn y fath fodd.

"Yn aml, nid yw colur yn cael sylw gan ei fod yn gyfrwng i helpu adrodd stori a dylai bylu i mewn i'r ffilm, felly mae'n hyfryd ei fod yn cael ei amlygu yn y ffordd hon."

Y DJ a'r cyflwynydd Huw Stephens sydd yn cyflwyno'r seremoni.

Ymhlith y rhai sydd wedi mynychu yw'r actores a'r ysgrifenwraig Sian Gibson, yr actor Richard Elis, yr actor Game of Thrones Robert Pugh a'r actores Catrin Stewart.