Ail gartrefi Gwynedd: Galw am newid yn y gyfraith

cyngor gwynedd

Mae cadeirydd un o bwyllgorau mwyaf dylanwadol Cyngor Gwynedd wedi galw am newid y ddeddf i orfodi unrhyw un sy'n penderfynu troi tŷ gwyliau yn uned hunan-ddarpar, i gael caniatâd cynllunio.

Mae'r Cynghorydd Jason Humphreys, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol, yn honni y gallai'r cyngor golli arian sylweddol gan nad oes rhaid talu treth cyngor ar uned hunan-ddarpar.

Dywedodd y cyngor bod unrhyw ostyngiad mewn refeniw Treth Cyngor yn cael ei gyd-bwyso gan gynnydd yn y grant gan y llywodraeth.

Yn ystod y deng mlynedd diwethaf yng Ngwynedd mae 800 o ail gartrefi wedi cael eu dynodi gan eu perchnogion yn unedau hunan-ddarpar, sy'n golygu mai treth fusnes i'r Trysorlys maen nhw yn ei dalu ac nid Treth Cyngor.

Mae'r ddeddf yn mynnu fod eiddo hunan-ddarpar yn gorfod bod ar gael i'w osod am 140 o ddyddiau'r flwyddyn a rhaid i'r perchennog brofi ei fod wedi cael ei osod am o leiaf 70 o ddyddiau, ond ar hyn o bryd dydi hynny ddim yn cael ei blismona.

Image caption Mae Jason Humphreys yn galw am newid y ddeddf

Dywedodd y cynghorydd Humphreys: "Yn 2006 roedd yna 78 uned hunan-arlwy yng Ngwynedd. Y llynedd roedd o wedi cynyddu i 968.

"Mae hynny'n golygu eu bod nhw yn talu Trethi Busnes yn hytrach na Threth Cyngor a hefo'r drefn ddisgownt, ella nad ydyn nhw'n talu'r un geiniog, a dwi'n meddwl mai sir Gwynedd sy'n dioddef fwyaf o'r sefyllfa yma."

'Dwylo wedi'u clymu'

Mae nifer o awdurdodau wedi penderfynu codi treth ychwanegol ar ail gartrefi, a hyd yma tydi Gwynedd ddim wedi gwneud hynny, ond pryder y Cynghorydd Jason Humphreys ydi y byddai hynny'n arwain at lawer yn rhagor o berchnogion yn newid statws eu heiddo i fod yn unedau hunan-ddarpar.

"Yr unig ffordd i ddatrys y broblem ydi fod Aelodau Seneddol a Chynulliad yn tynnu eu bysedd allan ac yn sicrhau newidiadau yn y gyfraith," meddai.

"Be mae'r Pwyllgor wedi ei argymell ydi y dylai perchnogion y tai fynd drwy'r drefn gynllunio a hefyd wrth gwrs fod yna bwysau yn cael ei roi ar y Prisiwr Rhanbarthol i sicrhau na ddylai treth fusnes fyth fod yn is na threth cyngor oherwydd maen nhw (perchnogion) yn gwneud llawer mwy o bres wrth rentu allan i dwristiaid nag wrth rentu i bobol leol."

Yn ôl y cyngor does dim colled ariannol barhaol gan fod y llywodraeth yn cynyddu'r grant canolog os ydi'r incwm o'r dreth cyngor yn gostwng.

'Ateb y broblem'

Mae dwylo'r cyngor wedi eu clymu yn ôl yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am adnoddau, y cynghorydd Peredur Jenkins.

"Rydan ni yn nwylo'r Prisiwr Dosbarth a fo sy'n gallu dynodi os ydi'r dreth yn dreth ddomestig neu'n dreth fusnes," meddai.

"Rydan ni mewn gohebiaeth hefo Llywodraeth Cymru ar y mater yma ers sawl blwyddyn.

"Petai nhw yn fodlon newid y rheoliadau cynllunio a rhoi'r hawl i Gyngor Gwynedd benderfynu a ddylai eiddo gael trosglwyddo o Dreth Cyngor i Dreth Fusnes, mi fuasai'n ateb y broblem."