Pryder am ddiogelwch ffordd ar ôl i geffyl gael ei ladd
- Cyhoeddwyd

Mae galwadau cynyddol ar yr awdurdodau i osod gwell rhybuddion ar ffordd fynydd yn y gogledd ar ôl i geffyl gael ei ladd mewn gwrthdrawiad ddydd Mercher.
Daw'r digwyddiad yn dilyn tri achos arall o ferlod gwyllt yn cael eu lladd gan geir ar Fwlch Sychnant, rhwng Conwy a Phenmaenmawr, yn 2013 a 2014.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymdeithas Merlod Mynydd Carneddau, Gareth Wyn Jones mai "dim ond mater o amser yw hi cyn y caiff rhywun eu lladd".
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i'r digwyddiad diweddaraf.
Mae'r BBC yn deall na chafodd y person ar gefn y ceffyl na gyrrwr y car eu hanafu yn y gwrthdrawiad ddydd Mercher.
'Mater o amser'
"Mae'n sefyllfa beryglus oherwydd bod yna ferlod mynydd gwyllt ar y ffordd," meddai Mr Jones.
"Rwyf wedi gofyn i'r cyngor ddarparu goleuadau llachar ar gyfer ceir a math gwahanol o arwyddion.
"Fe fydd yna ddamwain angheuol rhyw ddiwrnod, dim ond mater o amser ydi o. Mae ceir yn gyrru'n gyflym ar y bwlch."
Dywedodd Gyngor Conwy bod nifer o arwyddion yn rhybuddio am geffylau yn y ffordd wedi cael eu gosod ar y bwlch yn 2014.
"Er hynny, rydyn ni wedi ychwanegu rhybuddion am ddefaid yn y ffordd," meddai llefarydd.
"Does gennym ni ddim gwybodaeth ar hyn o bryd am achos y digwyddiad ddydd Mercher a bydd angen mwy o fanylion am y digwyddiad i ystyried os fyddai mwy o arwyddion o fudd."