Cyhoeddi enw canŵiwr fu farw yn afon Glaslyn, Eryri
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw canŵiwr fu farw ar ôl mynd i drafferthion mewn afon yn Eryri.
Roedd Thomas Lloyd yn 24 oed ac yn dod o ardal Whittington yn Sir Stafford.
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i afon Glaslyn ger Beddgelert tua 14:50 ddydd Mawrth yn dilyn adroddiadau bod y canŵiwr mewn trafferth.
Bu'r gwasanaeth tân, tîm achub dŵr a chriwiau achub mynydd yn rhan o'r chwilio.
Fe gafodd corff Mr Lloyd ei dynnu o'r afon gan dimau achub fore Mercher.
Dyn 'hoffus iawn'
Mewn teyrnged, dywedodd Prifysgol Bangor: "Roedd Tom yn fyfyriwr hoffus iawn a oedd newydd gychwyn ei drydedd flwyddyn yn astudio ar gyfer gradd mewn Rheolaeth Amgylcheddol.
"Roedd yn hoff iawn o weithgareddau awyr agored ac yn brofiadol iawn, ac roedd newydd ddychwelyd o Norwy ble y bu'n gweithio dros yr hâf yn hyfforddi caiacio, yn ogystal â gwneud gwaith maes fel rhan o'i astudiaethau.
"Bydd colled fawr ar ei ôl, ac rydym yn cydymdeimlo'n fawr â'i ffrindiau a'i deulu."
Mae swyddogion arbenigol o Heddlu Gogledd Cymru yn cynnig cefnogaeth i'w deulu ar hyn o bryd.