Grimsby 1 - 0 Casnewydd

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Rex Features
disgrifiad o’r llunGôl gosb hwyr gan Omar Bogle sicrhaodd fuddugoliaeth i Grimsby

Mae Casnewydd yn parhau ar waelod tabl yr ail adran ar ôl colli i ffwrdd yn Grimsby.

Sgoriodd Omar Bogle yn hwyr i'r tim cartref wedi i Dan Butler faglu Tom Bolarinwa yn y cwrt cosbi.

Mae'r pwysau'n cynyddu ar reolwr Casnewydd, Warren Feeney, wedi un fuddugoliaeth yn unig y tymor hwn.