Zebre 21-23 Gleision

  • Cyhoeddwyd
Steven Shingler offloads to Tom JamesFfynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,
Steven Shingler yn rhyddhau Tom James

Mae'r Gleision yn parhau yn ddiguro yn y Pro12 ar ôl crafu i fuddugoliaeth yn erbyn Zebre yn Parma.

Ar ôl ciciau llwyddiannus gan Carlo Canna a Steven Shingler roedd y sgôr yn gyfartal, ond aeth yr Eidalwyr ar y blaen wrth i Guglielmo Palazzani groesi.

Fe wnaeth cais yr asgellwr Blaine Scully roi'r Gleision ar y blaen, gyda Matthew Morgan a Tom James yn ymestyn y fantais.

Ond tarodd Zebre yn ôl, Giulio Bisegni a Giovanbattista Venditti yn croesi gan fygwth buddugoliaeth i'r tîm cartref.