Pryder am ddyfodol brîd o wartheg yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch wedi dechrau i geisio achub brîd o wartheg sydd wedi byw ar dir parc yn Sir Gaerfyrddin ers dros 1,000 o flynyddoedd.
Mae Gwartheg Gwyn y Parc wedi pori ar dir parc Dinefwr ger Llandeilo ers y flwyddyn 920, ac mae yna gyfeiriad at y gwartheg yng nghyfraith Hywel Dda.
Gyda'u cotiau gwyn a'u clustiau a'u llygaid duon, dim ond 750 o heffrod bridio sydd ar ôl yn y byd bellach, ac mae angen tarw newydd ar y fuches yn Sir Gaerfyrddin.
Prinach na'r panda
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dweud eu bod nhw'n brinach na'r panda mawr hyd yn oed, ac wedi dechrau ymgyrch i gadw'r llinach i fynd.
Dim ond 13 ohonyn nhw sydd yn Ninefwr, ac mae'r ymddiriedolaeth yn dweud bod angen sicrhau nad yw'r nifer yn gostwng.
"Ar ôl pedair blynedd o wasanaeth arbennig, mae'r tarw presennol, Strelley Bendigo, wedi gwneud y mwya o'i botensial o fewn y fuches," meddai Wyn Davies, sy'n gofalu amdanyn nhw.
"Mae angen cyflwyno gwryw newydd i warchod y llinach a sicrhau bod y teirw sy'n cael eu bridio ar y tir yn driw i'r rhywogaeth."
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ceisio casglu £36,000 er mwyn prynu tarw a gwartheg newydd.