Gosod targed o 181 i Forgannwg guro Sir Gaerlŷr
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Morgannwg orffen yr ail ddiwrnod o chwarae yn erbyn Sir Gaerlŷr ar 11-1 ar ôl i'r tîm cartref osod targed o 181.
Ar ôl iddyn nhw gyrraedd ond 96 yn eu batiad cyntaf, Angus Robson, 72, a Neil Dexter berfformiodd orau i Sir Gaerlŷr, wnaeth gyrraedd cyfanswm o 283 yn yr ail fatiad.
Timm van der Gugten, 4-81, a Michael Hogan, 3-55, oedd y gorau o fowlwyr Morgannwg.
Collodd Nick Selman ei wiced yn ail fatiad Morgannwg cyn i ddiffyg golau rhoi diwedd ar y chwarae am y diwrnod.