Ysgol ar dân yn Nhrefynwy
- Cyhoeddwyd

Mae 30 o swyddogion tân wedi diffodd tân yn Ysgol Trefynwy.
Cafod y gwasanaethau brys eu galw yna am 1900 oherwydd tân ym mloc gwyddoniaeth yr ysgol.
Roedd saith injan dân yno. Yn ôl y gwasanaeth tân mae'r fflamau o dan reolaeth erbyn hyn.
Roedd heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans yno hefyd. Mewn datganiad heno fe gadarnhaodd yr ysgol nad oedd yna unrhyw anafiadau oherwydd y digwyddiad.