Comisiynydd y Gymraeg yn herio'r Ysgrifennydd Addysg

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunMae gan yr Ysgrifennydd Addysg "gyfle bendigedig" meddai Meri Huws

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd os nad yw awdurdodau addysg yn ymateb i'r galw am addysg Gymraeg yn eu hardaloedd.

Mewn cyfweliad â rhaglen Post Cyntaf Radio Cymru, dywedodd Meri Huws bod awdurdodau addysg wedi gorfod datblygu strategaethau lleol o ran addysg Gymraeg.

Ond mae hi'n cwestiynu faint o'r strategaethau hynny sy'n cael eu gweithredu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gynyddu capasiti i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg".

'Aros yn yr unfan'

Dywedodd Meri Huws: "Mae'r llywodraeth yn barod iawn i ymyrryd, pan fydd 'na fethiant yn y system addysg mewn meysydd eraill.

"Ond 'dwi ddim yn gweld eu bod nhw'r un mor barod i roi'r arweiniad, ac i ymyrryd mewn ffordd bositif, gydag awdurdodau lleol sydd efallai ddim yn darparu cystal ag y dylai nhw fod yn wneud."

Yn ôl y Comisiynydd, dyma'r her nawr i'r Ysgrifennydd Addysg newydd, Kirsty Williams.

"Mae gan y Llywodraeth strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg," meddai Ms Huws.

"Mi ddylai nhw fod yn arwain, mi ddylai nhw fod yn ymyrryd lle mae 'na amheuaeth o fethiant i ymateb i'r galw.

"Dyna'r her, dyna'r her i'r gweinidog newydd - i edrych ar y darlun ar draws Cymru, a gofyn, 'Ydi hyn yn ddigon da? Pam ydyn ni wedi aros yn yr unfan yn ystod y cyfnod diwethaf 'ma?'"

Ychwanegodd: "Mae'n gyfle bendigedig i ofyn y cwestiwn yna. Gweinidog newydd. Tymor newydd.

"Edrych ymlaen at greu system addysg sydd yn wirioneddol ffit i bwrpas yng Nghymru. A dyna 'dwi'n credu yw'r her i'r gweinidog newydd ar hyn o bryd."

disgrifiadOes angen ymyrryd pan nad yw cynghorau yn cwrdd â'r galw am addysg Gymraeg?

Roedd enghreifftiau da meddai'r Comisiynydd, gyda datblygiadau ym maes addysg Gymraeg yn ddiweddar yng Nghaerdydd, Casnewydd a Dinbych-y-pysgod.

Ond mae hi'n bryderus nad yw'r ymateb yn ddigon cyson ar draws Cymru.

Ychwanegodd Ms Huws bod y system addysg yn hanfodol i ddyfodol i'r Gymraeg, gyda chynifer o blant bellach yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol - yn hytrach nag yn y cartref.

Dywedodd: "Oes 'na alw mas yna? Oes. Pam nad yw'r awdurdodau lleol, pam nad yw'r llywodraeth yn ymateb i'r galw yna?"

Mewn ymateb dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gynyddu capasiti i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg drwy eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg."